Where Work Meets Adventure
Dewch i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i werthfawrogi parch, cydraddoldeb a pherthnasau iach
Oes gennych radd neu gymhwyster perthnasol ym maes addysg, gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid neu ymgysylltu cymunedol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn sesiwn addysgol?
Rydym yn chwilio am aelod newydd (siaradwr Cymraeg) i ymuno â’n tîm Prosiect Spectrum, gan weithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, gan addysgu plant am berthnasau iach a phynciau VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol).
Mae’r rôl hon yn amodol ar wiriad Datgeliad Manwl (Gweithlu Plant) gan y DBS, a delir gan y cwmni os oes angen.
Croesewir ceisiadau gan unrhyw un sy’n byw yn ardal Gwynedd / Ynys Môn. Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr drwydded yrru lawn ac yn meddu ar gerbyd, gan fod y rôl hon, er ei bod w...