Where Work Meets Adventure
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu brwdfrydig a dibynadwy i ddod yn aelod o dîm cynhwysiant yr ysgol.
Chwiliwn am ymgeisydd egnïol a hyblyg fydd yn medru ymdopi â’r her o gefnogi ystod eang o ddysgwyr o fewn yr adran gynhwysiant ac yn ystod y diwrnod ysgol. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar hyrwyddo cynhwysiant a chynnydd dysgwyr drwy gefnogi gweithgareddau dysgu mewn gwahanol amgylcheddau.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy’n meddu ar frwdfrydedd heintus ac sy’n awyddus i weithio yma yn Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda.
Y rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
•arwain a chefnogi sesiynau gwaith ac ymyrraeth ar gyfer unigolion a grwpiau bach o ddysgwyr,
• gweithio’n agos gyda staff addysgu a’r tîm cynhwysiant i gefnogi cynnydd dysgwyr,
• cynorthwyo dysgwyr i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu ar draws yr ysgol,
• darparu cefnoga...