Where Work Meets Adventure
Swydd: Athro/awes Technoleg (gydag ail bwnc)
Dyddiad Cychwyn: Medi 2026
Cyflog Graddfa Cyflog Athrawon
Cytundeb: Llawn amser a dros dro am flwyddyn
Dyddiad cau am geisiadau: Dydd Gwener 19eg o Fehefin am 09:00
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol flaengar a llwyddiannus sydd â “naws deuluol Gymreig ac ethos cryf o weithio fel tîm sydd yn treiddio’r holl ysgol” (Estyn, 2023). Mae gennym dîm brwdfrydig a thalentog o staff sydd yn ymroi’n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad ein dysgwyr. Chwiliwn felly am berson blaengar, brwdfrydig, ymroddgar ac egnïol sydd â’r gallu i addysgu o fewn yr adran dechnoleg.
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw unig ysgol gyfun Gymraeg sir Pen-y-bont ar Ogwr ac mae gennym weledigaeth clir a safonau uchel. “Mae gan yr arweinwyr ddarlun cynhwysfawr o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella yn yr ysgol a maent yn uchelgeis...